Y cyntaf yn y casgliad, mae ein Cwpan Teithio 'Caerdydd' unigryw yn cynnwys darluniau arbennig yr artist lleol talentog Phil Morgan, sydd yn tynnu sylw at rai o dirnodau chwaraeon, diwylliannol a hanesyddol mwyaf adnabyddus y Ddinas. Dyma’r anrheg berffaith i frodorion balch Caerdydd neu ymwelwyr i’r ddinas fel ei gilydd. Wedi'i gynhyrchu a'i argraffu yn y DU, mae'r cwpan thermol hwn yn ddiogel i’w roi yn y ficrodon a'r peiriant golchi llestri ac mae'n ddewis cynaliadwy gwych o'i gymharu â chwpanau untro. Gyda'i gapasiti hael o 400ml, bydd y dyluniad wal ddwbl hwn yn cadw'ch diod yn gynnes am gyfnod hirach. Daw’r cwpan mewn bocs unigol.






